Croeso i wefan y Cardi Bach, papur bro sy’n gwasanaethu’r pentrefi / trefi canlynol : – Alma, Arberth, Bancyfelin, Blaenwaun, Cefnypant, Clunderwen, Cwmbach, Cwm Miles, Cwmfelin Mynach, Efailwen, Gelliwen, Hendy Gwyn, Henllan – fallteg, Login, Llanboidy, Llandysilio, Llanglydwen, Llangynin, Meidrim, Penybont, Pwlltrap, Rhydyceisiaid, Rhydwilym, San Cler a Trelech.
Mae’r papur bro ar werth yn eich siopau lleol nawr, mae rhestr llawn i’w gweld ar y dudalen Ble i brynu.

Mae’r wefan yn cynnwys tudalen ar Hanes y papur bro a sut cafodd ei sefydlu nol yn 1979. Mae modd i chi hefyd edrych nol ar hen rifynnau o’r papur a cynnwys dyddiadau o weithgareddau rydych yn trefnu o fewn eich cymunedau ar y dudalen Dyddiadur.

Mae’r papur bro yn dibynnu’n fawr ar gefnogaeth y darllenwyr a’r busnesau lleol ac rydym yn hynod ddiolchgar i bawb am y gefnogaeth rydym yn ei dderbyn. Gwelir rhestr llawn o’r hysbysebwyr ac aelodau o’r Clwb 200 ar y dudalen Cefnogi ac mae modd i danysgrifio i dderbyn y papur bro ar y dudalen yma hefyd.

Croeso i chi anfon neges atom ar y dudalen Cyswllt a gwelir rhestr o’r gwirfoddolwyr sy’n cyfrannu’n rheolaidd at lwyddiant y papur ar y dudalen Swyddogion.