Hanes

Hanes

Ers 1979

Tua diwedd 1979 cafodd Y Parchgn. Tecwyn Ifan ac Euros Wyn Jones y syniad o ddechrau ‘Papur Bro’ yn yr ardal.   Buont yn galw yng nghartref Rhoswen Llewellyn gan ofyn iddi fod yn ‘Olygydd’. Ni chytunodd ar y dechrau ac am gyfnod, bu’r Parchg. Euros Wyn Jones yn Olygydd gyda’r Parchg. Tecwyn Ifan a Rhoswen Llewellyn yn Olygyddion Cynorthwyol.

Yn ddiweddarach, symudodd y ddau weinidog i’r Gogledd a daeth Rhoswen Llewellyn yn Olygydd a Nansi Evans yn Is-olygydd.

O Hendygwyn i Aberteifi

Y teipydd cyntaf oedd Iona Scourfield yn cael ei chynorthwyo gan Sheila Salmon a Meinir Richards.   Yna daeth Nansi Evans yn deipydd ac mae’n dal i wneud hynny hyd heddiw.

Enwyd y Papur Bro yn ‘Y Cardi Bach’  gan fod tren o’r un enw yn cysylltu Hendygwyn ac Aberteifi gan alw mewn gorsafoedd ardaloedd a gynrychiolir yn awr gan y papur bro.

Pris y ‘Cardi Bach’ yn ystod y blynyddoedd cynnar oedd 12c.

Argraffir y papur gan Wasg Aeron a dosbarthwyd ef ar hyd y blynyddoedd gan Roy Llewellyn.   Ar ol i’r Golygydd roi’r newyddion, lluniau, erthyglau a.y.y.b at ei gilydd byddai’r papur (ar ol dod o’r Wasg) yn cael ei blygu mewn gwahanol ardaloedd a chwmni lluosog yn dod at ei gilydd.

Ers blynyddoedd bellach, y cysodwyr yw Wyn a Meirwen Evans ac mae lluniau lliw yn rhan o’r  tudalennau blaen ac ol.

DYMA’R RAN O’R GOLYGYDDOL CYNTAF

dyddiad Tachwedd 1979:-

”Dyma’r ‘Cardi Bach’ wedi codi stem unwaith eto, yn barod am daith hir a diddorol drwy gymoedd y fro. Mewn cyfarfod a gynhaliwyd yng Nghanolfan Ffynnonwen, ym mis Medi,  cytunwyd fod gwir angen papur bro i’n gwasanaethu yn yr ardal hon, fel y gwna papurau bro eraill led-led Cymru.

Ei brif amcan yw bod yn ddrych o fywyd Cymraeg a Chymreig ein hardal.  Ei danwydd fydd hanes y werin ymhob agwedd ar ei bywyd.  Eich papur CHI yw hwn.  Chi  sydd i benderfynnu ei gynnwys; byddwn yn croesawu pob cyfraniad, yn hanes neu bennill, llun neu lythyr, boed ddoniol neu ddifrifol.  Peidiwch ag ofni gwneud defnydd ohono.

Ein gobaith yw y bydd Y Cardi Bach yn gyfrwng i’n dwyn fel ardalwyr yn nes at ein gilydd ac yn foddion i hyrwyddo ein bywyd diwylliannol.”